Canolfan dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd

Cronfa Datblygu

 

Does dim galwadau am geisiadau ar hyn o bryd.

Cronfa fechan yw’r gronfa datblygu ymchwil a sefydlwyd i ddarparu cyllid cychwynnol ar gyfer projectau newydd ar y cyd a fydd o gymorth i ymestyn rhaglen ymchwil bresennol y Ganolfan Dwyieithrwydd a denu grantiau mwy o gynghorau ymchwil. Gwahoddir ceisiadau am symiau rhwng £1,000 a £5,000 i bob project, a dylai pob grant arwain yn uniongyrchol at gais am grant ymchwil sylweddol, tua 100 gwaith yn fwy o ran gwerth (FEC). Golyga hyn y dylai grant o £1,000 arwain at gais am grant ymchwil o tua £100,000, tra dylai un am £5,000 arwain at gais am grant o £500,000 ac felly ymlaen.

 

Pwyllgor Gweithredu'r Ganolfan sy’n gyfrifol am asesu ceisiadau ac am wneud penderfyniadau arnynt, mewn ymgynghoriad â’r Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil).  Yn y cyflwyniad byr hwn ceir gwybodaeth am y drefn y dylid ei dilyn wrth wneud cais am gyllid, yr anghenion o ran gwneud cais, a rhai canllawiau o safbwynt y mathau o geisiadau ymchwil y gobeithiwn eu derbyn.

1. Mae’r cam cyntaf yn y broses gwneud cais yn cynnwys cyflawni amcanion eang y Ganolfan. O ran cynnwys yr ymchwil, mae'n rhaid i'r ymchwil fod yn berthnasol i ddwyieithrwydd ac yn canolbwyntio ar iechyd a lles, amrywiaeth cymdeithasol a deall ymddygiad unigolion. Mae'r wybodaeth gyffredinol sydd ar wefan y Ganolfan ESRC yn rhoi golwg gyffredinol dda ar waith y Ganolfan - gan gynnwys ei hawydd i ehangu ymhellach na’i meysydd ymchwilio cyfredol.

Fel rheol, bydd y Pwyllgor Gweithredol yn gwneud penderfyniadau am geisiadau bob 6 mis. Rhaid derbyn y ceisiadau erbyn y dyddiad a hysbysebir. Ni chaiff unrhyw geisiadau hwyr eu hystyried. Mae’r ffurflen gais ar gael o’r wefan. Ymhelaethir isod ar y  prif bwyntiau.

Fel rheol, daw cais am gyllid gan aelod o’r Ganolfan neu gan Gysylltai Ymchwil. Byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau gan eraill, ond, os bydd cais o’r fath yn llwyddiannus, disgwylir i’r ymgeisydd ddod yn Gysylltai Ymchwil i’r Ganolfan.  Mae’n rhaid i unrhyw gais gynnwys cydweithredu ag aelod o’r Ganolfan sydd mewn swydd academaidd barhaol yn y Brifysgol. Mae’r Pwyllgor Gweithredu yn awyddus iawn i gefnogi cydweithredu newydd a fydd yn trawstorri themâu ymchwil cyfredol, neu a fydd yn cynnwys persbectif traws-ddisgyblaethol.

2. Ail faen prawf allweddol yw datganiad o ganlyniadau, ar ffurf cais am grant yn y dyfodol. Fel y nodwyd uchod, dylai hwn fod yn gais am grant sylweddol tua 100 gwaith yn fwy ei gwerth na’r grant cyllid cychwynnol.  Bydd y Pwyllgor Gweithredu’n monitro hynt ceisiadau am grantiau sylweddol gan dderbynwyr grantiau cyllid cychwynnol.

Tra amlygir y ddau faen prawf yma - gwerth ychwanegol a chanlyniadau ymchwil, bydd y Pwyllgor Gweithredu hefyd yn asesu cynigion o ran ansawdd y wyddoniaeth, cost effeithiolrwydd y cynnig, ac ystyriaethau trydedd genhadaeth. Mae’n bosib y bydd telerau ac amodau swydd gyfredol ymgeisydd yn cael eu hystyried, o'r safbwynt y gallai’r rhain ddylanwadu ar ei allu i gynnal yr ymchwil.  Rydym yn aml yn disgwyl i geisiadau gynnwys casglu data gan sampl o gyfranogwyr neu o ffynonellau perthnasol sy’n ddigonol i ddangos prawf o gysyniad, ac/neu ddarparu digon o ddata i gynnal astudiaeth beilot neu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ceisiadau dilynol am gyllid gan gyrff allanol. Er enghraifft, gallai grant cyllid cychwynnol dalu am gyflogi Cysylltai Ymchwil yn rhan-amser neu dros dro, neu dalu costau cael rhywun i ddysgu yn ei le.

Mae’r costau a ganiateir yn cynnwys talu i gyfranogwyr, costau teithio a chynhaliaeth, defnyddio neu logi offer, costau Cysylltai Ymchwil a chostau cael rhywun i ddysgu yn ei le. Nid oes darpariaeth ar gyfer prynu offer drwy’r Ganolfan ESRC. Gallai’r Pwyllgor Gweithredu, fodd bynnag, roi cyngor i ymgeiswyr am gyfleoedd fel rhannu adnoddau ar draws gwahanol brojectau cydweithredol er mwyn defnyddio'r adnoddau i'r eithaf. 

Hoffwn fod yn hyblyg a pharod i helpu hyd y gallwn o fewn y cyfyngiadau a osodir gan y gyllideb ac amcanion tymor hir y Ganolfan. Rydym yn annog ymgeiswyr posib i drafod ceisiadau ag aelodau'r pwyllgor cyn gynted â phosib wrth ddatblygu project, er mwyn pennu'r ffordd orau i wneud cais am arian gan y Ganolfan ac i hybu i’r eithaf lwyddiant y cais a'r project fel cyfanwaith. 

Cliciwch yma am ffurflen gais...

Ceisiadau llwyddianus 2008 - Cliciwch yma

Ceisiadau llwyddianus 2009 - Cliciwch yma

Ceisiadau llwyddianus 2010 -