Canolfan dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd
Adeilad Brigantia, Prifysgol Bangor
16 Tachwedd 2007
Lansiwyd y Ganolfan Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor ar 16 Tachwedd 2007. Roedd llawer iawn o bobl yn bresennol, gydag oddeutu cant o bobl yn cynrychioli gwahanol adrannau'r Brifysgol a nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Gobeithir cynnal digwyddiad tebyg yn flynyddol.
Cyn y derbyniad, cafwyd cyflwyniadau byr gan aelodau'r Ganolfan. Roedd y rhaglen fel a ganlyn:
Yn ei chyflwyniad, rhoddodd yr Athro Deuchar amlinelliad o brif amcanion y Ganolfan. Disgrifiodd sut y bydd y Ganolfan yn cynnig dealltwriaeth ddamcaniaethol newydd yn deillio o ymchwil sylfaenol a hefyd allbynnau ymarferol newydd, h.y. adnoddau ac offer ar gyfer defnyddwyr ac ymarferwyr. Eglurodd bod y Ganolfan yn dod ag arbenigwyr rhyngwladol mewn dwyieithrwydd o feysydd ieithyddiaeth, addysg a seicoleg at ei gilydd mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol a bod 15 aelod staff newydd wedi eu recriwtio a dau Athro newydd wedi eu penodi.
Ar ran y Grŵp Niwrowyddoniaeth, disgrifiodd Dr Thierry y ddwy brif ffrwd ymchwil sydd wedi dechrau (dwyieithrwydd datblygiadol a dwyieithrwydd ymysg oedolion). Mae’r rhain yn cynnwys y modd y mae babanod rhwng 14 a 20 mis oed yn cysylltu ystyr gyda geiriau yn seiliedig ar arbrofion preimio lluniau a geiriau ac agweddau awtomatig cyrchiad semantig yn nwy iaith oedolion sy’n ddwyieithog Cymraeg-Saesneg ers eu plentyndod cynnar.
Ar ran y Grŵp Seicoieithyddiaeth Arbrofol, disgrifiodd yr Athro Gathercole y prif feysydd ymchwil. Mae’r Grŵp yn astudio (a) y berthynas rhwng y ddwy iaith wrth i siaradwyr dwyieithog eu caffael a’r agweddau ar forffoleg a chystrawen a ddefnyddir; (b) y ffactorau sy’n cyfrannu at gaffael, defnyddio a phrosesu categorïau ieithyddol ac anieithyddol, yn enwedig lle mae'r ddwy iaith yn wahanol; (c) i ba raddau y mae’r broses o gaffael a’r berthynas rhwng dwy iaith y siaradwr dwyieithog yn dibynnu ar y “cydbwysedd” a’r profiad ieithyddol.
Ar ran y Grŵp Corpws, cyhoeddodd yr Athro Deuchar y project o greu ‘llyfrgell’ o sgyrsiau go iawn wedi eu recordio ym Miami ac ym Mhatagonia. Defnyddir y gronfa ddata newydd hon gan grŵp Bangor i brofi’r damcaniaethau presennol am gyfnewid cod, h.y. y ffenomenon ganfyddadwy o newid o un iaith i’r llall ar lafar yn yr un frawddeg.
Ar ran y Grŵp Arolygon ac Ethnograffeg, eglurodd yr Athro Colin Baker y modd y mae ei dîm yn ymchwilio’r dulliau gorau o ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn yr un dosbarth, tra disgrifiodd Dr Eddie Williams astudiaeth am ddefnydd y Gymraeg a’r Saesneg mewn bywyd bob dydd yn y cartref, yr ysgol, y gwaith a gweithgareddau hamdden yng Nghaernarfon.
Cafodd y cyflwyniadau ymateb cadarnhaol iawn a chafwyd diodydd a chanapés i ddilyn. Cafwyd araith gan Meri Huws, y Dirprwy Is-ganghellor. Llongyfarchodd y tîm oedd wedi llwyddo i gael nawdd gan yr ESRC, gan amlygu'r ffaith bod cael nawdd ar raddfa fawr felly yn anodd iawn a bod y llwyddiant yn haeddu canmoliaeth fawr. Yna diolchodd Dr Thierry i’r Athro Deuchar am ei hymroddiad a chyflwynodd flodau iddi. Dilynwyd yr areithiau gan ddigwyddiad diwylliannol a ysgrifennwyd gan Peredur Davies, myfyriwr doethuriaeth mewn ieithyddiaeth a chyflwynwyd ganddo a Jonathan Stammers, sydd hefyd yn fyfyriwr doethuriaeth mewn ieithyddiaeth. Roedd y perfformiad yn un difyr dros ben a chafodd gymeradwyaeth wresog.



Trosglwyddo iaith mewn teuluoedd dwyieithog
Pobl ddwyieithog ym Miami ac yng ngogledd Cymru: mor bell ac eto mor agos
Casglu data yn Miami, Patagonia a Chymru
Ystyr Newid Cod yw defnyddio dwy (neu fwy) o ieithoedd wrth siarad.
Rhaglen ymchwil Addysg Ddwyieithog yng Nghymru