Canolfan dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd

Grwpiau Ymchwil

 

Mae'r Ganolfan yn canolbwyntio ar bump o thema ymchwil.

Grŵp Ymchwil Niwrowyddoniaeth

Dan arweiniad Yr Athro Guillaume Thierry mewn cydweithrediad â Dr Debbie Mills a'r Athro Marilyn Vihman

Mae electroffisioleg yn ein galluogi i arsylwi gweithgarwch yr ymennydd dynol ar groen y pen ac yn rhoi gwybod i ni am weithrediadau meddyliol ymwybodol ac anymwybodol bob milfed rhan o eiliad.

Mae’r grŵp hwn yn mynd i’r afael â’r cwestiynau ymchwil canlynol:

A. Dwyieithrwydd a datblygiad iaith

1. Sut mae dwyieithrwydd yn datblygu yn yr ymennydd dynol?

2. Sut mae cysylltiadau semantig rhwng geiriau a chysyniadau yn cael eu sefydlu yn y meddwl dwyieithog?

B. Ymyrraeth iaith mewn pobl a ddysgodd ail iaith yn oedolion

1. Pa fecanwaith mae unigolion dwyieithog yn ei ddefnyddio i ddod o hyd i ystyron geiriau mewn un o’u hieithoedd?

2. Sut maen nhw’n lleihau ymyrraeth yr iaith arall wrth ddeall a chynhyrchu iaith?

Ymchwil Arbrofol-Datblygiadol

Dan arweiniad Yr Athro Virginia C. Mueller Gathercole mewn cydweithrediad â Dr Enlli Thomas

Canolbwynt theoretig y grŵp hwn yw astudio’r rhyngweithiadau rhwng dwy iaith person dwyieithog a rhwng eu gwybodaeth ieithyddol a’r ffordd maen nhw’n categoreiddio.  Nod mwy ymarferol yw hyrwyddo datblygiad arfau asesu iawn ar gyfer poblogaethau dwyieithog.

Mae’r canlynol yn rhai o’r cwestiynau theoretig y bwriedir mynd i’r afael â nhw:

1. Beth yw’r berthynas rhwng y ddwy iaith wrth i siaradwyr dwyieithog gaffael a defnyddio morffo-gystrawen?

2. Pa ffactorau sy’n cyfrannu at gaffael, defnyddio a phrosesu categorïau ieithyddol ac anieithyddol, yn enwedig lle mae’r ddwy iaith yn cynnig atebion gwahanol?

3. I ba raddau mae’r broses o gaffael a’r berthynas derfynol rhwng y ddwy iaith mewn siaradwr dwyieithog yn dibynnu ar y “cydbwysedd” rhwng yr ieithoedd a’u profiad ohonynt?

Ymchwil ar Sail Corpws

Dan arweiniad Yr Athro Margaret Deuchar

Bydd y grŵp hwn yn ceisio ennill gwell dealltwriaeth o sut mae unigolion dwyieithog mewn amrywiaeth o gymunedau’n rheoli eu dwy iaith o fewn yr un sgwrs.

Byddwn yn gofyn y cwestiynau canlynol:

1. Ydy pobl ddwyieithog mewn gwahanol fathau o gymunedau’n rheoli eu dwy iaith mewn gwahanol ffyrdd mewn sgwrs?

2. Sut mae newidynnau cymdeithasol fel dosbarth, oed a rhyw yn effeithio ar y ffordd mae pobl yn rheoli eu dwy iaith mewn sgyrsiau anffurfiol? 

Bydd dau fath o ddata’n cael eu defnyddio ar gyfer yr astudiaeth hon:

(a) data sydd eisoes ar gael mewn archif ryngwladol sy’n datblygu, Talkbank/LIDES neu a gasglwyd gan ymchwilwyr eraill;

(b) data a gasglwyd yn benodol ar gyfer y rhaglen ymchwil hon.

Ymchwil Arolwg ac Ethnograffeg

Dan arweiniad Yr Athro Colin Baker mewn cydweithrediad â Dr Gwyn Lewis

Dwy ffrwd gweithgarwch sydd i’r grŵp hwn. Yn gyntaf bydd yn ymchwilio i’r defnydd o ddwy iaith mewn dosbarthiadau dwyieithog yng Nghymru, ac yn ail, bydd yn craffu’n fanwl ar y defnydd o iaith leiafrifol mewn cymuned ddwyieithog benodol yng Ngogledd Cymru.

A. Addysg ddwyieithog – project ymchwil mewn tri cham:

1. arolygu ac arsylwi ymarfer presennol yn yr ystafell ddosbarth a hynny’n arwain at dypoleg gychwynnol o ddyraniad iaith;

2. ymgynghori ag ymarferwyr a chynghorwyr ynghylch y strategaethau dyrannu iaith mwyaf effeithiol;

3. llunio deunyddiau hyfforddi.

B. Ethnograffeg ieithyddol – iaith mewn bywyd a gwaith yng Nghaernarfon:

Bydd y project hwn yn rhoi disgrifiad ethnograffig o dref Caernarfon. Ei nod fydd canfod y defnydd a wneir o Gymraeg a Saesneg a’r arferion iaith yn y cartref, mewn gweithgareddau hamdden ac yn  y gweithle, a thrwy hynny archwilio sut mae’r cyd-destun cymdeithasol-ieithyddol hwn yn effeithio ar blant a’u rhieni/gofalwyr o ran dewisiadau bywyd ac addysg.

Ymchwil i Leferydd

Dan arweiniad Yr Athro Ineke Mennen

Mae'r grŵp hwn yn ceisio deall sut mae siaradwyr dwy iaith yn rheoli dwy system sain (sydd o bosib yn cystadlu â'i gilydd), gan gynnwys acen, tonyddiaeth a rhythm.

Mae'r cwestiynau ymchwil a fydd dan sylw yn cynnwys:

          1.  Beth yw natur a chyfeiriad ymyrraeth rhwng systemau sain siaradwyr

              dwyieithog ar lefel segmentol ac uwch segmentol?

          2.  Sut mae siaradwyr dwy iaith yn newid yn ol ac ymlaen rhwng dwy

               (neu fwy) o systemau sain?

          3.  Pa ffactorau sy'n gwneud i oedolion sy'n dysgu ail iaith yn hwyr

               swnio'n estron?

Byddwn yn seilio ein canfyddiadau ar gorpora lleferydd a gofnodwyd yn unswydd, ar gorpora sydd eisoes yn bodoli (megis Cronfa Ddata L2 Ymddiriedolaeth Gwyddorau Ewrop) yn ogystal â data a gasglwyd mewn cyd-destunau arbrofol.