Canolfan dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd
Mae’r Ysgol Haf Ddwyieithrwydd yn rhaglen ryngwladol sy’n para pythefnos a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor, un o’r sefydliadau mwyaf blaenllaw ym maes ymchwil i ddwyieithrwydd. Bydd yr Ysgol Haf yn cynnwys 16-18 o gyrsiau wythnos ar bynciau sy’n ymwneud â dwyieithrwydd a byddant yn cael eu dysgu gan ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.
Bydd yr ysgol haf yn cynnwys hyfforddwyr lleol, o ysgolion Ieithyddiaeth, Seicoleg, Addysg, Gwyddorau Cymdeithas a Hanes y Brifysgol ac o’n Canolfan, yn ogystal ag ymchwilwyr adnabyddus o du allan i Fangor. Bydd yr Ysgol Haf hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan bum prif siaradwr a symposiwm lle gall y cyfranogwyr gyflwyno eu gwaith a derbyn adborth.
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i fyfyrwyr ac ymchwilwyr gael cipolwg ar y gwaith cyffrous sydd wedi ei wneud ym maes dwyieithrwydd ac i drafod eu hymchwil eu hunain. Hefyd mae’n gyfle gwych i fwynhau rhai o’r golygfeydd a lleoliadau hanesyddol harddaf yn y Deyrnas Unedig.
Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.bangor.ac.uk/bilingualism-summerschool neu ebostiwch bilingualism-summerschool@bangor.ac.uk